Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
02 Gorffennaf 2018
SL(5)231 – Rheoliadau Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol yn deillio o Reoliadau Deddf Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 ("y Ddeddf").
Mae'r Rheoliadau yn diwygio:-
- deddfwriaeth sylfaenol (i ddiweddaru croesgyfeiriadau at "warediadau esempt”); a
- Rheolau Cofrestru Tir 2003
o ganlyniad i newidiadau a wnaed gan y Ddeddf sy'n diddymu'r gofynion i gael caniatâd Gweinidogion Cymru i waredu tir gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.
Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018(1)
Fe’u gwnaed ar:
Fe’u gosodwyd ar:
Yn dod i rym ar: 15 Awst 2018